2012 Rhif 739 (Cy. 99 )(C. 19)

TIROEDD COMIN, CYMRU

Gorchymyn Deddf Tiroedd Comin 2006 (Cychwyn Rhif 2, Darpariaethau Trosiannol ac Arbedion) (Cymru) 2012

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym ar 1 Ebrill 2012 ddarpariaethau penodol o Ddeddf Tiroedd Comin 2006 (“Deddf 2006”) o ran Cymru.

Roedd Gorchymyn Deddf Tiroedd Comin 2006 (Cychwyn Rhif 1, Darpariaethau Trosiannol ac Arbedion) (Cymru) 2007 (O.S. 2007/2386) (Cy.197) (C.88) yn dwyn i rym nifer o ddarpariaethau at y diben cyfyngedig o alluogi Gweinidogion Cymru i roi canllawiau neu gyfarwyddiadau ac i wneud rheoliadau, neu i wneud darpariaeth drwy reoliadau.

Mae erthygl 2 o'r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym ddarpariaethau sy'n ymwneud â datgofrestru a chyfnewid tir comin, a gweithfeydd arno, ynghyd ag apelau cysylltiedig. 

Mae erthygl 3 o'r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym at bob diben sy'n weddill ddarpariaethau sy'n ymwneud â datgofrestru a chyfnewid tir comin, a gweithfeydd arno.  

Mae erthygl 4 o'r Gorchymyn hwn yn cynnwys darpariaethau trosiannol ac arbedion sy'n ymwneud â'r darpariaethau a gaiff eu dwyn i rym gan erthyglau 2 a 3 o'r Gorchymyn hwn.

Gellir cael gwybodaeth bellach ar y darpariaethau y daw’r Gorchymyn hwn â hwy i rym yn y Nodiadau Esboniadol i Ddeddf Tiroedd Comin  2006 y gellir eu gweld yn www.legislation.gov.uk.


 

NODYN AM Y GORCHMYNION CYCHWYN BLAENOROL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Cafodd y darpariaethau canlynol yn Neddf 2006 eu dwyn i rym o ran Cymru drwy orchmynion cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn:

 

Y Ddarpariaeth

Y dyddiad cychwyn

O.S.  Rhif

Adran 3(5) - at ddibenion penodol

12 Awst  2007

2007/2386

(Cy.197) (C.88)

Adran 4

6 Medi 2007

2007/2386

(Cy.197)

(C.88)

Adran 5

6 Medi 2007

2007/2386

(Cy.197)

(C.88)

Adran 6(4) - at ddibenion penodol

12 Awst  2007

2007/2386

(Cy.197)

(C.88)

Adran 7(4) - at ddibenion penodol

12 Awst  2007

2007/2386

(Cy.197)

(C.88)

Adran 8(1),(2) - at ddibenion penodol

12 Awst  2007

2007/2386

(Cy.197)

(C.88)

Adran 11(5), (6) - at ddibenion penodol

12 Awst  2007

2007/2386

(Cy.197)

(C.88)

Adran 12(a) - at ddibenion penodol

12 Awst  2007

2007/2386

(Cy.197)

(C.88)

Adran 13(1)(a) – at ddibenion penodol

12 Awst  2007

2007/2386

(Cy.197)

(C.88)

Adran 14 - at ddibenion penodol

12 Awst  2007

2007/2386

(Cy.197)

(C.88)

Adran 15

6 Medi 2007

2007/2386

(Cy.197)

(C.88)

Adran 17(3), (10) - at ddibenion penodol

12 Awst  2007

2007/2386

(Cy.197)

(C.88)

Adran 19(6) - at ddibenion penodol

12 Awst  2007 

2007/2386

(Cy.197)

(C.88)

Adran 20(2), (3) - at ddibenion penodol

12 Awst  2007 

2007/2386

(Cy.197)

(C.88)

Adran 21(2), (3) - at ddibenion penodol

12 Awst  2007 

2007/2386

(Cy.197)

(C.88)

Adran 22 - at ddibenion penodol

12 Awst  2007 

2007/2386

(Cy.197)

(C.88)

Adran 23  - at ddibenion penodol

12 Awst  2007

2007/2386

(Cy.197)

(C.88)

Adran 23 - at ddibenion penodol

6 Medi 2007

2007/2386

(Cy.197)

(C.88)

Adran 24 - at ddibenion penodol

12 Awst  2007

2007/2386 (Cy.197) (C.88)

Adran 24

6 Medi 2007

2007/2386

(Cy.197)

(C.88)

Adran 25  - at ddibenion penodol

12 Awst  2007

2007/2386

(Cy.197)

(C.88)

Adran 29(1), (6) - at ddibenion penodol

12 Awst  2007

2007/2386

(Cy.197)

(C.88)

Adran 31(6)(a) – at ddibenion penodol

12 Awst  2007

2007/2386

(Cy.197)

(C.88)

Adran 39(6) - at ddibenion penodol

12 Awst  2007

2007/2386

(Cy.197)

(C.88)

Adran 40 - at ddibenion penodol

12 Awst  2007

2007/2386

(Cy.197)

(C.88)

Adran 42(4) - at ddibenion penodol

12 Awst  2007

2007/2386

(Cy.197)

(C.88)

Adran 43 - at ddibenion penodol

12 Awst  2007

2007/2386

(Cy.197)

(C.88)

Adran 44 - at ddibenion penodol

12 Awst  2007

2007/2386

(Cy.197)

(C.88)

Adran 45

6 Medi 2007

2007/2386

(Cy.197)

(C.88)

Adran 47

6 Medi 2007

2007/2386

(Cy.197)

(C.88)

Adran 49

6 Medi 2007

2007/2386

(Cy.197)

(C.88)

Adran 50(1),     (4)-(6) -  at ddibenion penodol

12 Awst  2007

2007/2386

(Cy.197)

(C.88)

Adran 51

6 Medi 2007

2007/2386

(Cy.197)

(C.88)

Adran 52  - at ddibenion penodol

6 Medi 2007

2007/2386

(Cy.197)

(C.88)

Adran 53 - at ddibenion penodol

6 Medi 2007

2007/2386

(Cy.197)

(C.88)

Atodlen 2, paragraffau 2(2)(d) a (3), 3(2)(e) a (3), 4(6), 5(3), 6(3), 7(3), 8(3), 9(4) a 10 – at ddibenion penodol

12 Awst  2007

2007/2386

(Cy.197)

(C.88)

Atodlen 3, paragraffau 2(1), (5) a (6), 4, 5, 8(2) a (3)  – at ddibenion penodol

12 Awst  2007

2007/2386

(Cy.197)

(C.88)

Atodlen 3, paragraff 9

6 Medi 2007

2007/2386

(Cy.197)

(C.88)

Atodlen 4, paragraff 6

6 Medi 2007

2007/2386

(Cy.197)

(C.88)

Atodlen 5, paragraffau 4, 6(a), 7(1)(yn rhannol) a (5) 

6 Medi 2007

2007/2386

(Cy.197)

(C.88)

Atodlen 6, Rhan 1 yn rhannol

6 Medi 2007

2007/2386

(Cy.197)

(C.88)

Atodlen 6, Rhan 1 yn rhannol

1 Rhagfyr 2010

2010/2356

(C.114)

Atodlen 6, Rhan 2 yn rhannol

6 Medi 2007

2007/2386

(Cy.197)

(C.88)

Atodlen 6, Rhan 3 yn rhannol

6 Medi 2007

2007/2386

(Cy.197)

(C.88)

Atodlen 6, Rhan 5

6 Medi 2007

2007/2386

(Cy.197)

(C.88)

 

Gwnaed y Gorchymyn Cychwyn canlynol o dan Ddeddf 2006 gan yr Ysgrifennydd Gwladol mewn perthynas â Lloegr a chan Weinidogion Cymru mewn perthynas â Chymru —

Gorchymyn Deddf Tiroedd Comin 2006 (Cychwyn Rhif 1 ac Arbedion (Cymru a Lloegr) a Chychwyn Rhif 5 (Lloegr) (Diwygio)) 2010 (O.S. 2010/2356) (C. 114)

Gwnaed y Gorchmynion Cychwyn canlynol o dan Ddeddf 2006 gan yr Ysgrifennydd Gwladol mewn perthynas â  Lloegr —

Gorchymyn Deddf Tiroedd Comin 2006 (Cychwyn Rhif  1, Darpariaethau Trosiannol ac Arbedion) (Lloegr) 2006 ( O.S. 2006/2504) (C.84)

Gorchymyn Deddf Tiroedd Comin 2006 (Cychwyn Rhif  2, Darpariaethau Trosiannol ac Arbedion) (Lloegr) 2007 ( O.S.  2007/456) (C.17)

Gorchymyn Deddf Tiroedd Comin 2006 (Cychwyn Rhif  3, Darpariaethau Trosiannol ac Arbedion) (Lloegr) 2007 ( O.S.  2007/2584) (C.98)

Gorchymyn Deddf Tiroedd Comin 2006 (Cychwyn Rhif 4 ac Arbedion) (Lloegr) 2008 ( O.S.  2008/1960) (C. 94)

Gorchymyn Deddf Tiroedd Comin 2006 (Cychwyn Rhif  5) (Lloegr) 2010 ( O.S. 2010/61) (C.10)

Gorchymyn Deddf Tiroedd Comin 2006 (Cychwyn Rhif  6) (Lloegr) 2011 ( O.S.  2011/2460) (C.88)

Gweler hefyd adran 56 o Deddf Tiroedd Comin 2006 ar gyfer y darpariaethau a fydd yn dod i rym heblaw drwy orchymyn cychwyn.


2012 Rhif 739 (Cy. 99)(C. 19)

TIROEDD COMIN, Cymru

Gorchymyn Deddf Tiroedd Comin 2006 (Cychwyn Rhif 2, Darpariaethau Trosiannol ac Arbedion) (Cymru) 2012

Gwnaed                                 7 Mawrth 2012

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adrannau 56(1) a 59(1) o Ddeddf Tiroedd Comin 2006([1]), ac sydd bellach yn arferadwy ganddynt hwy([2]), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:

Enwi, dehongli a chymhwyso

1.(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Tiroedd Comin 2006 (Cychwyn Rhif 2, Darpariaethau Trosiannol ac Arbedion) (Cymru) 2012.

(2) Yn y Gorchymyn hwn —

ystyr “Deddf 1965”  (“the 1965 Act”) yw Deddf Tiroedd Comin 1965([3]); ac

ystyr “Deddf 2006” (“the 2006 Act”) yw Deddf  Tiroedd Comin 2006.

(3) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.

Darpariaethau yn dod i rym

2. Mae darpariaethau canlynol Deddf 2006 yn dod i rym ar 1 Ebrill 2012—

(a)     adran 16 (datgofrestru a chyfnewid: ceisiadau);

(b)     adran 17(1) i (2) a (4) i (9) (datgofrestru a chyfnewid: gorchmynion);

(c)     adran 38 (gwaharddiad ar weithfeydd heb gydsyniad);

(ch) adran 39(1) i (5) a (7) (cydsyniad: cyffredinol);

(d)      adran 41 (gorfodi);

(dd) adran 42(1) i (3) a (5) (cynlluniau);

(e)      adran 48 (cau tir); ac

(f)      i'r graddau nad ydynt eisoes mewn grym—

                           (i)    Atodlen 4 (gweithfeydd: atodol); a

                         (ii)    Rhannau 2, 3 a 5 o Atodlen 6 (diddymiadau), ac adran 53 i'r graddau y mae'n ymwneud â'r darpariaethau hynny.

Darpariaethau yn dod i rym at bob diben sy'n weddill

3. Mae darpariaethau canlynol Deddf 2006 yn dod i rym at bob diben sy'n weddill ar 1 Ebrill 2012—

(a)     adran 17(3) a (10) (datgofrestru a chyfnewid: gorchmynion);

(b)     adran 39(6) (cydsyniad);

(c)     adran 40 (cydsyniad: y weithdrefn);

(ch) adran 42(4) (cynlluniau);

(d)     adran 43 (y pŵer i esemptio); ac

(dd) adran 44 (materion atodol).

Darpariaethau Trosiannol ac Arbedion

4.(1) Hyd nes y daw adran 1 o Ddeddf 2006 i rym mewn perthynas ag unrhyw ardal o Gymru—

(a)     mae cyfeiriadau at dir wedi ei gofrestru'n dir comin neu’n faes y dref neu'n faes y pentref yn y canlynol—

                           (i)    adrannau 16 ac 17 o Ddeddf 2006;

                         (ii)    adrannau 38 a 44 o Ddeddf 2006; a

                       (iii)    adran 29(2) o Ddeddf yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol 1907([4]),

mewn perthynas â'r ardal honno, i'w trin fel cyfeiriadau at dir sydd wedi ei gofrestru felly o dan Ddeddf 1965;

(b)     mae cyfeiriadau yn adran 17 o Ddeddf 2006 at hawliau comin yn cael eu cofrestru'n rhai sy'n arferadwy dros dir o'r fath i'w trin, mewn perthynas â'r ardal honno, fel cyfeiriadau at hawliau comin sydd wedi eu cofrestru felly o dan Ddeddf 1965; a

(c)     mae gorchymyn o dan adran 17(1) o Ddeddf 2006 sy'n ymwneud â thir yn yr ardal honno i'w drin fel gorchymyn sy'n ei gwneud yn ofynnol i'r awdurdod cofrestru tiroedd Comin dynnu'r tir a ryddheir o gofrestr y tiroedd comin neu feysydd tref neu bentref a gedwir o dan Ddeddf 1965, ac (os yw'n gymwys) i gofrestru'r materion y cyfeirir atynt yn adran 17(2) o Ddeddf 2006 yn y gofrestr honno.

(2) Er gwaethaf diddymu adran 147 o Ddeddf Cau Tir 1845([5]), adran 4 o Ddeddf Cau Tir 1847([6]) ac adrannau 4 a 5 o Ddeddf Cau Tir 1857([7]), mae unrhyw gais am orchymyn cyfnewid o dan adran 147 o Ddeddf Cau Tir 1845 a wnaed cyn 1 Ebrill 2012 i'w drin ar neu ar ôl y dyddiad hwnnw fel pe bai'r darpariaethau hynny wedi parhau mewn grym.

(3) Ni fydd adran 38(1) o Ddeddf 2006 yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw weithfeydd sy'n cael eu gwneud yn unol â chydsyniad a roddir o dan adran 194 o Ddeddf Cyfraith Eiddo 1925([8]) cyn 1 Ebrill 2012.

(4) Er gwaethaf diddymu adran 194 o Ddeddf Cyfraith Eiddo 1925—

(a)     mae unrhyw gais am gydsyniad o dan yr adran honno a wnaed cyn 1 Ebrill 2012 i'w drin ar neu ar ôl y dyddiad hwnnw fel pe bai'r adran honno'n parhau mewn grym; a

(b)     os rhoddir cydsyniad i gais o'r fath, ni fydd adran 38(1) o Ddeddf 2006 yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw weithfeydd sy'n cael eu gwneud yn unol â'r cydsyniad hwnnw.

(5) Ni fydd adran 23(2A) o Ddeddf yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol 1971([9]) yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw gais am gydsyniad o dan yr adran honno a wnaed cyn 1 Ebrill 2012.

 

 

John Griffiths

 

Gweinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy, un o Weinidogion Cymru

 

7 Mawrth 2012

 



([1])           2006 p.26;  mae adran 61(1) yn diffinio “appropriate national authority” fel Cynulliad Cenedlaethol Cymru, mewn perthynas â Chymru.

([2])           Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi (p.32).

([3])           1965 p.64.

([4])           1907 p.cxxxvi. Mae adran 29(2) wedi cael ei mewnosod gan adran 44(1) o Ddeddf 2006 a pharagraff 3 o Atodlen 4 iddi.

([5])           1845 p.118.  Mae adran 147 wedi ei diddymu gan adrannau 48(1) a 53 o Ddeddf 2006 a Rhan 3 o Atodlen 6 iddi.

([6])           1847 p.111.  Mae adran 4 wedi ei diddymu gan adran 53 o Ddeddf 2006 a Rhan 3 o Atodlen 6 iddi.

([7])           1857 p.31.  Mae adrannau 4 a 5 wedi eu diddymu gan  adran 53 o Ddeddf 2006 a Rhan 3 o Atodlen 6 iddi.

([8])           1925 p.20.  Mae adran 194 wedi ei diddymu gan adran 53 o Ddeddf 2006 a Rhan 2 o Atodlen 6 iddi.

([9])           1971 p.vi. Mae adran 23(2A) wedi ei mewnosod gan adran 44(1) o Ddeddf 2006 a pharagraff 4(3) o Atodlen 4 iddi.